Gwybodaeth » Addysg » Sgiliau Astudio
Mae gwahanol bethau y gellir eu datblygu i helpu eich gallu i ddysgu.
Mae sgiliau astudio yn bwysig oherwydd maent yn gallu helpu gyda phethau fel paratoi ar gyfer arholiadau, ysgrifennu traethodau ac adolygu.
Gall sgiliau astudio gynnwys pethau fel rheoli eich amser, gofalu eich bod yn cymryd nodiadau yn glir ac yn syml, cynllunio eich adolygu, gweithio mewn grŵp a gwneud y gorau o adnoddau fel llyfrau a gwefannau.
Ar y tudalennau hyn gallwch ddarganfod awgrymiadau ynglŷn â sut i wneud astudio ychydig yn haws a chymryd llawer o’r straen ohono.



