Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Maetheg a Gweithgarwch Corfforol

Mae beth a fwytewch a faint o ymarfer a gewch, yn dylanwadu ar eich iechyd cyffredinol a pha mor dda rydych yn teimlo. Gall bwyta yn iach wella sut rydych yn gallu canolbwyntio, eich croen a’ch gwallt yn ogystal â rhoi digon o ynni i chi wneud y pethau y dymunwch eu gwneud.

 

Mae bwyta’n iach yn ymwneud â chael y cyfansymiau iawn o fitaminau, mwynau, protein a charbohydradau, yn ogystal â chael y mathau cywir o frasterau a siwgr.

Mae diet iach, cytbwys yn cynnwys amrywiaeth o wahanol fwydydd, gan gynnwys ffrwythau, llysiau, bwydydd yn cynnwys starts (fel bara, grawnfwydydd, reis, pasta a thatws), rhai bwydydd sy’n gyfoethog mewn protein fel cig, pysgod, wyau a chorbys, a rhai bwydydd llaeth a chynhyrchion llaeth. Mae deall y grwpiau bwyd hyn a sut i fwyta diet iach yn bwysig yn arbennig pan ydych yn ifanc a phan fo eich corff yn tyfu.

Mae cymryd ymarfer rheolaidd ac aros yn actif yn rhan hanfodol o ffordd o fyw iach. Nid yw hynny’n golygu fod yn rhaid i chi fynd i gampfa neu gymryd rhan mewn chwaraeon dwys, gall pethau fel mynd am dro a dawnsio fod yr un mor effeithiol i helpu i gadw’n ffit. Mae ymarfer rheolaidd yn cadw eich calon yn iach, yn gwella tôn eich cyhyrau ac yn helpu i reoli eich pwysau. Mae ymarfer hefyd yn gwella eich iechyd meddwl ac emosiynol, po fwyaf ffit yr ydych, y gorau y byddwch yn teimlo amdanoch eich hun.

Fe gewch fwy o wybodaeth am grwpiau bwyd, maeth ac ymarfer trwy ddilyn y dolennau canlynol i’r gwefannau.

Sefydliadau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.