Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Blog 1af Y NadoCLIC

Postiwyd gan neilramsden o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 13/12/2010 am 11:34
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Ffilmiau

English version

O ddydd Llun 13 i ddydd Gwener 24 Rhagfyr, bydd CLIC efo blog gwestai gwahanol bob dydd – Y 12 Blog NadoCLIC - ffaith! Dyma’r cyntaf…

Helo, Neil ydw i, a dwi’n ysgrifennu adolygiadau ffilm ar gyfer theSprout, dan yr enw ‘Fflic Fflac’, yn ogystal ag adolygiadau gigs ac erthyglau cyffredinol ar bethau sydd wedi cael fy sylw!

Ffilmiau Nadolig. Yn fwy tebygol o ddioddef o ddiffyg gwreiddioldeb llwyr i gymharu â mathau o ffilm eraill. I fod yn deg, sut wyt ti’n cael ffilm Nadolig gwreiddiol? Maent yn gyffredinol angen cynnwys ffigwr adnabyddus: Siôn Corn, Scrooge, carw, helpwr bach, dyn eira.

Mae gwir ffilm Nadolig (yn llygaid y cyfrifwyr) yn ffilm deuluol, felly ddim yn rhy ymylol, ac efo neges werthfawr neu'n foesol. Nawr, mae’n llawer gwell gen i rywbeth dadleuol yn fwy nag rhywbeth safonol, felly pan fyddaf yn meddwl am y ffilmiau Nadolig grêt, dwi ddim yn disgyn tuag at dy Christmas Carol traddodiadol (mae’n well gen i’r fersiwn Muppets.) Felly dyma rai o fy ffilmiau gorau Nadolig.

Fel plentyn roeddwn yn berchen ar nifer o fideos, ond roedd dau gafodd eu gwisgo allan oherwydd gorddefnydd: Jurassic Park, a Home Alone. Mewn oes lle gall hwyl Nadolig plant groesi gyda thrais eithafol, a Macaulay Culkin oedd y brawd fwyaf enwog, Home Alone oedd yr unig ffilm Nadolig oedd yn bwysig i mi.

Yn ôl yn y cyfnod pan doedd Tim Burton ddim wedi diflasu pawb drwy wneud yr un ffilm drosodd a throsodd, llwyddodd The Nightmare Before Christmas synnu cynulleidfaoedd oedd yn disgwyl cartŵn bach dymunol. Yn hyfryd o othig, mae’n cynnwys llawer o waith gorau Danny Elfman, yn ysgrifennu ac yn canu caneuon Jack Skellinton. Mae cân Nadolig sydd yn cynnwys y llinellau “What's This? There are children throwing snowballs here / Instead of throwing heads / They're busy building toys / And absolutely no one's dead” yn ennill bob tro yn fy marn i.

Heb amheuaeth, fy ffilm Nadolig gorau ydy Die Hard. Dwi ddim yn gwybod beth mae hynny yn ei ddweud amdanaf. Efallai ei fod yn ymddangos fel ffilm ‘action’ difeddwl gyda marwolaeth, ffrwydron ac acen gomig gan Alan Rickman (“Now I have a machine gun. Ho. Ho. Ho.”), ond yn y bôn mae’n ymwneud â theulu a chariad. Efallai.

Byddwn i wrth fy modd os byddai Bill Murray yn ewythr i mi fel ei fod o gwmpas bob Nadolig. Scrooged ydy’r ffilm Nadolig perffaith: y stori Charles Dickens traddodiadol wedi’i chymysgu gyda chwerwedd a choegni Bill Murray.

Ac i’r gwrthwyneb: Blackadder’s Christmas Carol, lle mae Ebenezer Blackadder, sydd yn ddyn neis iawn, yn cael ymweliad gan ysbryd Nadoligau’r gorffennol, presennol a dyfodol ac yn sylweddoli fod ei hynafiaid wedi llwyddo mewn bywyd drwy fod yn ddrwg. O ganlyn, erbyn diwedd yr ymweliadau mae’n penderfynu bod yn llawer llai dymunol – ac yn anymwybodol yn colli allan ar gael gwobr ariannol am fod y dyn fwyaf neis ym Mhrydain.

Mae’n anghredadwy pa mor brin ydy ffilmiau Nadolig sydd werth eu gwylio yn y deg mlynedd diwethaf; mae Elf yn un o’r ychydig. Yr ail gymeriad fwyaf doniol gan Will Ferrell, ond yn debyg yr un fwyaf adnabyddus, babi dynol wedi’i fagu fel corrach ym Mhegwn y Gogledd nes i’w faint trwsgl a’i ddiffyg sgiliau gwneud teganau ganlyn ynddo yn cael ei adael allan i’r byd i ddod o hyd i’w dad go iawn. Peth prin iawn: ffilm Nadolig gwreiddiol.

Gyda lwc gobeithio bydd ffilmiau da Nadolig ar y teledu dros y Nadolig, ond os nad oes, pam ddim cael rhai o’r rhain ar DVD a chael Nadolig amgen!

12 Blog Y NadoCLIC

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.