Dadorchuddio Hypnosis Ifanc
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hypnosis.
Mae’n ffaith, fy mod i, yn hypnotydd.
Dwi wedi bod yn ymarfer hypnoteiddio am dros flwyddyn a gallaf ddweud yn wirioneddol ei fod wedi bod, o bell ffordd, un o’r pethau mwyaf diddorol dwi wedi dod i mewn i fy mywyd.
Cychwynnodd fy niddordeb mewn hypnoteiddio wedi gwylio Derren Brown yn paredio o gwmpas ar y teledu, yn rhoi pobl mewn ‘perlewyg’ cyfriniol ac aneglur yn sydyn ac yn ddiymdrech drwy glicio ei fysedd. Roedd parch mawr gen i tuag ato.
Ymestynnais am y peiriant rhyngrwyd-alluog agosaf yn syth ac archebu copi o Tricks Of The Mind. Roedd yn llyfr swynol ac, er syndod, amlygodd nifer fawr am ei grefft a gadawodd i minnau ymchwilio i mewn i feddwl fy eilun newydd.
Y bennod ‘Hypnosis And Suggestibility’ o’r llyfr oedd, i mi, y darn fwyaf diddorol o fy Meibl a darllenais ac ailddarllenais drosodd a throsodd.
I gychwyn, roeddwn yn eithaf ofn hypnoteiddio un o fy ffrindiau. Nid oherwydd y potensial o beryglon ymglymedig (ac nid oes rhai (mae’r linc yma i wefan sydd yn amlinellu’r rhesymau pam fod y gymuned wyddonol yn ystyried hypnosis fel ymarfer hollol ddiogel, mewn dwylo galluog a chyfrifol)), ond oherwydd roeddwn ofn y byddwn yn gwneud smonach o rywbeth a byddai fy ffrindiau yn chwerthin ar fy mhen.
Roeddwn i eisiau ymarfer beth roeddwn i wedi dysgu ond yn nerfus am ble i gychwyn.
Penderfynais chwarae’n saff. Roddais wadd i un o fy ffrindiau gorau drosodd i’m nghartref a gofyn iddi a byddai’n fodlon i mi ymarfer fy sgiliau hypnoteiddio arni. Er ei bod hi’n ychydig yn amheugar, yn credu na fyddai’n gweithio arni, cytunodd a gofynnais iddi eistedd i lawr ar fy ngwely.
Byddai’r broses dwi’n defnyddio i roi hi mewn cyflwr o hypnosis (anwythiad) yn cymryd gormod o le yn fan hyn i ddisgrifio, ond o fewn 30 munud roedd hi mewn cyflwr o hypnosis wedi ymlacio ac roeddwn yn barod i fynd ymlaen gyda fy ngwaith hypnoteiddio.
Roeddwn yn eithaf brawychus gweld fy ffrind gorau yn gorwedd ar fy ngwely, yn hollol llonydd, yn gwrando ac yn fwy pwysig dilyn pob awgrym rhoddais iddi. Cychwynnais gyda chodi braich syml ble mae braich y person (neu ffrind) yn codi i’r awyr, heb unrhyw ymyriant gan y person eu hunain.
Daeth gwen mawr i’m hwyneb wrth i fraich fy ffrind godi yn uwch ac yn uwch. Penderfynais geisio rhywbeth anoddach, neu fwy gludiog y dylwn i ddweud (a nage dim yn y ffordd rydych chi’n ei feddwl. Pobl fudr). Roeddwn wedi synnu pan roedd dwylo fy ffrind yn sownd i’r bwrdd ger fy ngwely, ddim yn gallu eu symud o gwbl.
Parheais i gael hi i brofi teimladau mwy difyrrus, fel anghofio ei henw, y rhif pedwar ac, un ddaeth a miri mawr i’r sesiwn, yn anghofio beth oedd buwch yn cael ei alw. Roeddwn i wrth fy modd.
Ychydig fisoedd wedyn ni fues yn gwneud llawer gyda fy niddordeb newydd, ond fe es ar drip ysgol i Orllewin Cymru gyda 4 o bobl eraill yr un oed, un o’r rhai oedd fy ffrind oedd wedi cael ei hypnoteiddio gynt.
Yn ystod y nos, gyda dim llawer i wneud, siaradom ac er fy mod yn anghofio sut yn union daeth y peth i mewn i’r drafodaeth, cychwynnom siarad am fy ngalluoedd hypnoteiddio. Roedd y lleill eisiau gwybod mwy ac fe wnaethom rhywbeth dwi nawr yn profi yn aml pan mae pobl yn darganfod fy mod yn hypnotydd: syndod i gychwyn ac yna llawr o bwyntio bys wrth weiddi “Gwna fo! Gwna fo!”
Cydymffurfiais a rhoi fy ffrind arall mewn cyflwr hypnotig dwfn (Sylwa nad ydw i’n defnyddio’r gair perlewyg, fel y bydd nifer o hypnotyddion. Os wyt ti wedi darllen Tricks Of The Mind Derren Brown, a dwi’n gobeithio y gwnei di, mi fyddet yn gwybod pam.)
Uchafbwynt y noson oedd un o fy ffrindiau eraill yn cael profiad o ‘deleportio’. “Sut?” dwi’n clywed ti’n gofyn mewn syndod. Mae’r broses yn un eithaf hawdd: ti’n gadael iddynt gael mewn cyflwr hypnotig dwfn, cyn eu sefyll i fyny yn araf. Ti wedyn yn mynd a nhw i ardal arall (yn yr achos hwn o’r gegin i’r coridor rhyw 15 medr i ffwrdd) wrth wneud iddynt anghofio’r siwrne. Y funud mae eu troed yn hitio’r llawr maent yn anghofio amdano. Roedd y golwg ar ei hwyneb yn amhrisiadwy.
Wedi cyfnod y Nadolig, roedd newyddion o fy ngallu hypnotig wedi lledaenu o gwmpas yr ysgol. Daeth nifer o bobl ataf i ofyn a fyddwn yn hypnoteiddio nhw ac roeddwn wrth fy modd fod cymaint o bobl gyda diddordeb mewn rhywbeth oedd yn bwysig i mi.
Roeddwn i, erbyn hyn, wedi llwyddo lleihau’r amser roedd yn ei gymryd i gael rhywun i mewn i hypnosis. Wrth hypnoteiddio fy ffrind fe gymerodd hanner awr cyn iddi fod mewn cyflwr wedi hollol ymlacio, ond nawr roeddwn yn gallu hypnoteiddio fy ffrindiau o fewn munudau.
Wrth i amser basio, cynyddodd fy ngallu hypnotig, nes un dydd llwyddais roi un o fy ffrindiau mewn cyflwr hypnotig mewn llai na 15 eiliad. Roeddwn, fel y gallwch feddwl, wrth fy modd.
Yn ddigon sydyn roeddwn yn adlonni fy ffrindiau mewn noson cysgu drosodd lle gadawais i fy ffrindiau deithio yn ôl mewn amser i’w ‘bywydau cynt’ (term dwi’n defnyddio yn llac iawn). Roedd yn anhygoel gweld fy ffrindiau yn dweud wrthyf am eu bywydau yn yr 1800au. Feddyliais i erioed fod meddwl dynol mor fedrus mewn dychymyg, yn enwedig pan roedd y dymuniad mor ddigymell.
A dyma ni’n cyrraedd fy mhenwythnos diweddaraf, lle mynychais y penwythnos CLIC ym Mae Penfro. Yn syth, dywedodd ffrind wrth bobl fy mod yn hypnotydd ac yn hwyrach y noson honno rhoddais un o fy ffrindiau newydd mewn hypnosis yn ddiymdrech.
Penderfynais ei wneud yn haws iddo gael i mewn i hypnosis drwy roi, beth rydym yn ei alw’n awgrymiad ôl-hypnotig yn y byd hypnosis, neu mewn geiriau eraill effaith o hypnosis sydd yn parhau wedi’r person ddeffro. Roedd yr awgrymiad ôl-hypnotig yn un eithaf syml, ond roedd yn rhywbeth y byddai’n gadael i mi ei roi yn ôl i mewn i hypnosis yn hawdd.
Roedd yn rhywbeth fel hyn: “Mewn munud, byddet yn darganfod dy hun yn ôl yn yr ystafell yn teimlo wedi adfywio, wedi ymlacio ac yn effro. Ond os ydw i’n tapio ti ar dy ysgwydd fel hyn,” (tapiais ef ar ei ysgwydd fel ei fod yn deall beth oeddwn yn ei feddwl) “byddet yn gallu cau dy lygaid yn ddiymdrech a dychwelyd i’r cyflwr rhyfeddol hwn o ymlacio llwyr.”
Ar ôl ei ddeffro, cyn gynted i mi dapio ar ei ysgwydd, caeodd ei lygaid a suddodd ei gorff yn ôl i gyflwr ymlacio llwyr.
Os ydw i wedi hypnoteiddio ti, postia dy brofiad yma fel sylwad. Byddai’n ddiddorol darganfod eich barn. Fel y dywedais, hypnosis ydy’r peth fwyaf swynol dwi wedi bod yn ymglymedig ag ef yn fy mywyd a dwi’n edrych ymlaen at hypnoteiddio chi i gyd… ac ar y pwynt hwnnw byddaf yn RHEOLI’R BYD!
O.N. Mae Derren Brown yn bapur wal fy nghyfrifiadur nawr!
LINCIAU
Y Gymdeithas Brydeinig O Hypnosis Clinigol
Tudalennau Gwybodaeth Iechyd CLIC
Delwedd llygaid: Lan Bui






