Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

EisteddFlog: Dydd 4 Blog 1

Postiwyd gan Stormer007 o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 03/06/2011 am 09:14
1 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Gwyl

English version

Yr wythnos hon, mae CLIC yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd yn Abertawe. Bob dydd, bydd un o'n hysgrifenwyr yn rhannu ei brofiad o'r ŵyl. Dyma fydd Eisteddflogiau'r Urdd a dyma Stormer007 yn blogio ar y pedwerydd diwrnod…

"Helo! Shwmai. Sut ydych chi heddiw?" Dyna ni faint o allu Cymraeg sydd gen i. Dwi'n meddwl ei bod hi'n eithaf od felly fy mod i'n dewis mynychu Eisteddfod yr Urdd – gŵyl sydd ei chyfanrwydd yn cael ei chynnal drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Er hyn, deffrais heddiw am 6:30 a chael fy hun yn barod am beth sydd wedi bod yn ddiwrnod braf iawn. Yn cyrraedd yn Abertawe, roeddwn wedi synnu ar faint y digwyddiad hwn. Roedd cymaint o babelli a phobl o'm hamgylch, i gyd yn siarad yn yr iaith Gymraeg. Roeddwn yn teimlo wedi fy moddi gan yr iaith braidd.

Pam gyrhaeddom, (Yasmin, Arielle, Dayana a finnau), aethom i mewn i ystafell clud lle rydym yn dychwelyd iddo amryw waith yn ystod y dydd. Hyn yn bod yn un ohonynt. Dwi'n ysgrifennu hwn yn yr Eisteddfod ar Mac… dwi'n teimlo'n fudr iawn.

Dadlwythom ein stwff a mynychu cynhadledd i'r wasg fer, lle daethom i wybod am gynlluniau'r dydd, ychydig o eiriau am ryw stwff gan ryw bobl a gweld cadair. Roedd yn gadair eithaf neis. Ond mae'n edrych yn anghyffyrddus. Cafodd y gadair hyfryd ei hennill gan ddyn ifanc o'r enw Llŷr Gwyn Lewis (am enw Cymraeg) am ei farddoniaeth, ar y pwnc o Fflam. Dywedodd Llŷr "Dwi'n falch iawn i'r Urdd am ysbrydoli fi i barhau i ysgrifennu bob blwyddyn". Mae'n ymddangos mai dyma'r ail flwyddyn yn ddilynol mae Llŷr wedi ennill y gadair hon. Dwi'n gobeithio ei fod yn mwynhau’r gadair ac yn ei roi yn rhywle sydd yn gweld angen. Ti'n gwybod, rhywle lle bydd yn tynnu sylw. Gallai cadair fel hyn ddod ac ystafell at ei gilydd yn ddel.

Ar ôl gwneud y pethau oedd rhaid gwneud aeth Yasmin, Dayana a finnau o gwmpas yr ŵyl yn ceisio hyrwyddo CLIC cymaint â gallwn gyda beiros, bandiau arddwrn, sticeri, bathodynnau ac (yn llai diddorol braidd) CLICzines am ddim. Ond, er fy mod i'n poeni na fyddem yn cael gwared ar (dosbarthu dwi'n feddwl) y nwyddau am ddim, llwyddom i roi popeth i ffwrdd o fewn dau i dair awr.

Gyda'r brif swydd o hyrwyddo CLIC allan o'r ffordd, penderfynom dynnu ychydig o fideos a lluniau i chi bobl hyfryd. Mae Dayana yn gweithio ar hyn wrth i mi siarad. Maen nhw'n edrych yn dda iawn.

Ond nid gwaith caled oedd hyn i gyd: cawsom hefyd ddigon o amser i gael hwyl a gemau (a the). Bu Arielle a finnau yn cymryd rhan mewn gwers Zumba byr ac aeth Yasmin a finnau i gymryd rhan mewn cwis ym mhabell y Brifysgol Agored. Aethom ag ychydig o lyfrynnau hefyd.

Am ryw reswm, er fy annigonolrwydd yn yr iaith Gymraeg, prynais gylchgrawn Cymraeg gan ddau fachgen ifanc. Yn bennaf am fy mod i'n cydymdeimlo â nhw. Roeddent yn edrych wedi blino.

Ar y cyfan, mae wedi bod yn ddiwrnod gwych yma yn yr Eisteddfod a dwi'n edrych ymlaen at ddod yn ôl yn fuan! Cadwa olwg am fwy o EisteddFlogiau diddorol. Gair dyfeisgar iawn.

I weld mwy o luniau o'r Eisteddfod edrycha ar ein halbwm Flickr ar ddiwedd pob dydd.

EISTEDDFLOGIAU
Dydd 1 Blog 1

Dydd 1 Blog 2

Dydd 2 Blog 1

Dydd 3 Blog 1

Dydd 3 Blog 2

1 CommentPostiwch sylw

CLICtania

CLICtania

Rhoddwyd sylw 11 mis yn ôl - 3rd June 2011 - 10:54am

Mae'r dawnsio Zumba yn edrych yn wych, da iawn Sam a Arielle. Shake those hips!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.