Erthygl 2000: Hanes Y Sprout
Heddiw Sproutwyr, rydym yn wynebu digwyddiad arwyddocaol. Mae'r erthygl rwyt ti yn darllen ar hyn o bryd yr 2,000 erthygl i gael ei chyhoeddi ar theSprout. Rydym wedi dod o gychwyniad distaw ond gyda gwaith caled ein golygyddion ac ymrwymiad a chysegriad bobl ifanc Caerdydd, rwyt ti yn darllen beth sydd yn garreg filltir yn hanes theSprout.
I ddathlu'r hyn, rwyf am arwain chi drwy hanes byr (wel, dwi'n dweud byr) theSprout, yn amlygu rhai o ddigwyddiadau cyntaf ac erthyglau eraill bwysig theSprout, yn ogystal â rhai erthyglau dwi'n eithaf hoff ohonynt.
Yn ôl yn 2007, cafodd theSprout ei lansio gyda'i erthygl agoriadol ac o'r holl bynciau i ddewis ohonynt, dewisodd ein tîm golygyddol Xboxes a'r Ailwampio Ewropeaidd. Efallai nad yw'n ymddangos fel y pwnc mwyaf diddorol neu bwysig, ond mae yn bendant yn bwysig. Ers 11eg Mehefin 2007, bu cyfanswm o ddim sylwadau, dim tweets a dim 'hoffi' ar Facebook.
Pedwar diwrnod yn ddiweddarach ar 15fed Mehefin, derbyniodd theSprout ei sylwad cyntaf! Roedd hyn ar yr ail erthygl i gael ei chyhoeddi am fodelau benywaidd ifanc. Roedd yr erthygl yn trafod pam na ddylai rhai dan 16 oed gael modelu mewn sioe ffasiwn yn Llundain, gan eu bod mewn perygl o gael eu gor-rywioli. Mae'r unig sylwad, wedi'i adael yn 3 blynedd a 4 mis cyfan ar ôl i'r erthygl gael ei chyhoeddi yn darllen fel hyn: "IE FE DDYLENT…" Am ddadl groes wych.
Ar 7fed Awst 2007, cafodd yr erthygl gyntaf ei chyhoeddi am rywun oedd ddim yn "Olygyddol" ei dderbyn gan theSprout. Ysgrifennodd Amy erthygl ddiddorol am y ffaith fod allyriad CO2 yng Nghymru'r uchaf ym Mhrydain. Derbyniodd yr erthygl un sylwad, dim ond mis yn ôl!
Yn hwyrach y flwyddyn honno, ar 5ed Rhagfyr, cyhoeddodd theSprout ei chystadleuaeth gyntaf! Y wobr oedd dau docyn i weld y Manic Street Preachers yn beth oedd y Cardiff International Arena. Yr unig beth oedd rhaid gwneud oedd e-bostio teitl o'u halbwm diweddaraf i theSprout (ond erbyn hyn, gallai hyn wedi newid… efallai… dwi ddim yn gwybod pwy ydy'r gweinidogion stryd wyllt yma).
Y flwyddyn ganlynol, ar 5ed Mai 2009, cyhoeddodd Amy erthygl yn datgan y perthynas newydd rhwng theSprout a Facebook. Y peth oedd yn rhyfeddu fi oedd y ffaith mai dim ond 69 miliwn o ddefnyddwyr (yn unig) oedd ar Facebook yn 2008. Heddiw mae gan Facebook dros 500 miliwn o ddefnyddwyr! Mae'r perthynas rhwng theSprout a Facebook bellach yn gryfach nac erioed ac rydym yn gobeithio y byddant yn rhannu eu bywydau am flynyddoedd i ddod.
Ar 3ydd Mehefin y flwyddyn honno, cawsom ein herthygl gyntaf gan seleb mawr ar theSprout, Marilyn Monroe, credir unwaith ei bod wedi marw o orddos, ond wedi profi'r byd yn anghywir am ei marwolaeth drwy gyhoeddi erthygl ddiddorol iawn ar doriadau 'r academi chwaraeon. Dwi'n dweud erthygl, dwi'n golygu… brawddeg. Rhywbeth gallai fod wedi'i dweetio yn lle.
Yn hwyrach y mis hwnnw, cawsant y cyntaf o beth ddaw yn nifer mawr o farddoniaeth ar theSprout. Wedi ei alw yn wreiddiol iawn yn 'Poem', mae enw SleepingDemon yn rhan o hanes theSprout drwy fod y bardd cyntaf arno. Da iawn fo… neu hi.
Ar 7fed Gorffennaf cychwynnodd ein Is-Olygydd ffyddlon Sam ei gyfrif, a phedwar diwrnod yn ddiweddarach cyhoeddodd ei erthygl gyntaf am ryw orsaf neu rywbeth. I ddweud y gwir, fe ddylwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn iawn i Sam! Mae'n gwneud llawer iawn i theSprout, ond oherwydd ei radd isel (Is-Olygydd), yn aml nid yw'n derbyn yr adnabyddiaeth mae'n ei haeddu! Diolch, Sub-Ed Sam. Ti'n wirioneddol nodedig!
Yn hwyrach ymlaen fis Gorffennaf cafodd yr adolygiad ffilm gyntaf ei chyhoeddi ar theSprout, ac na nid Fflic Fflac oedd o. Dheyman oedd y critig ffilm gyntaf ar theSprout gyda'i adolygiad o The Dark Knight. Ni fyddai Dheyman yn ymwybodol byddai ei erthygl ef y cyntaf o restr hir o adolygiadau ffilm, gydag ein harbenigwr ffilm reolaidd neilramsden yn lansio ei gyfres Fflic Fflac llwyddiannus iawn.
Cyn hir setlodd theSprout i mewn i drefn trendi a hip, gydag incwm rheolaidd o erthyglau gwych yn llifo i mewn.
Yna, yn fis Ionawr 2009, cafodd yr erthygl gyntaf yn Gymraeg ei chyhoeddi ar theSprout. Roedd yn erthygl oedd yn edrych ar drenau Arriva Cymru, wedi'i hysgrifennu gan ioioioan. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach cyhoeddodd ffrind annwyl i mi, CrazyDistortion, erthygl ar theSprout am siarad Cymraeg.
Dwi wedi cynnwys yn yr hanes hwn trysor bach sydd, mae'n debyg, wedi cael ei esgeuluso, gan nad yw wedi derbyn yr un sylwad. Adolygiad o albwm cyntaf Lady Gaga ydyw, The Fame. Gallet ddeall pam fy mod wedi ei gynnwys yn yr erthygl hon.
Ychydig fisoedd wedyn, ar 13 Gorffennaf, rhannodd Sproutiwr ifanc o'r enw rhedyn22 ei farn a'i gariad am theSprout yn ei erthygl hyfryd a swynol ble mae'n crynhoi gallu theSprout i ledaenu dy farn yn berffaith.
Yn Awst 2009, cyhoeddwyd erthygl gan hollyanderson49 am gaffi i bobl ifanc. Dwi wedi cynnwys hwn yn hanes theSprout gan ei fod yn syniad da iawn gallai weithio'n eithaf da yng Nghaerdydd dwi'n meddwl, ond hefyd gan ei fod yn ddarn eithaf lyfli ac ar hap. Byddai'n dda i'w amlygu ychydig.
Yn fis Medi, derbyniwyd campwaith gan theSprout oedd yn llwyddiant syth gyda Sproutwyr ymhobman. Mae'r darn gwaith hwn, wedi'i ysgrifennu gan Olygydd Sprout, o bosib yn un o'r darnau gorau o lenyddiaeth ar y wefan wych hon yn fy marn i. Os mai dim ond un erthygl ti am ddarllen allan o'r llwyth dwi'n rhestru, dwi'n crefu arnat i ddarllen yr un yma.
Ar 3ydd Hydref 2009, postiodd emb789 erthygl mewn gweledig iawn am ddelwedd corff, erthygl sydd yn gwneud i ti feddwl.
I'r rhai ohonoch sydd yn adnabod ein golygydd hyfryd cyntaf, Ryan, efallai dy fod yn gwybod ei fod dad. Darllena am ei fwndel o lawenydd yma.
Yn hwyr fis Hydref, bu integreiddiad theSprout gyda CLIC a daeth yn ôl wedi ychydig ddyddiau byr oddi ar-lein, gyda delwedd newydd sbon. Wedi ei ysgrifennu gan yr hyfryd CLIC Kathryn, gall ddarllen am y trawsnewidiad yma.
Ar 30 Mawrth 2010, cafodd hanes Sprout ei greu gyda'r Gwobrau Sprout cyntaf yn digwydd yn Y Fuwch Goch. Yn yr erthygl hon gan yr Is Olygydd Sam, gall ddarllen am y digwyddiad, y pethau ddigwyddodd a'r enillwyr Gwobrau Sprout cyntaf erioed!
Cwpl o ddiwrnodau wedyn, lansiodd theSproutDirect ar draws ardal De isaf Cymru.
O beth gallaf grynhoi, ar ryw bwynt rhwng Chwefror a Mawrth 2010, daeth Arielle yn olygydd newydd theSprout, yn cymryd lle Ryan. Ond, yn od, nid yw'n ymddangos fel bod erthygl am y digwyddiad pwysig hwn. Os hoffet ysgrifennu un, mae croeso i ti. Y pwynt ydy fod hwn yn rhan bwysig yn hanes theSprout gan mai Arielle ydy ein harweinydd newydd ac felly dylai ufuddhau iddi, rhag ofn i ti gael dy daro i lawr gan yr arglwydd didrugaredd o'r Sprouts! Tra dwi yma, diolch i ti Arielle am dy holl waith. Ti wirioneddol yn olygydd ffenomenaidd ac yn ffrind grêt ac yn gefnogwr pobl ifanc.
Yn fuan yn fis Mai, cyhoeddodd neilramsden ei erthygl Fflic Fflac cyntaf am y ffilm How To Train Your Dragon. Dwi ddim yn credu fod Neil yn sylweddoli yn union pa mor llwyddiannus byddai'r gyfres Fflic Fflac yn dod ac erbyn hyn maent yn nodwedd reolaidd ar theSprout..
Yn hwyrach y mis hwnnw, cyrhaeddodd Anti Sprout y sîn Sproutaidd gyda'i stori tor calonus a'i chyngor ysbrydoledig cyntaf. Nid ydym yn clywed llawer ganddi'r dyddiau hyn. Efallai bod hi'n bryd iddi ddod yn ôl?
Mae yna erthygl am Justin B****r a'i gerdd**iaeth. Meddwl efallai byddet yn ei fwynhau (wedi'i ddweud yn goeglyd… neu'n eironig; prun bynnag sydd yn well gen ti).
Ar 27ain Gorffennaf 2010, cyhoeddodd Tim_Crompton dyfodiad ei stori fer Heads or Tails. Ychydig wyddai Tim ar yr adeg byddai Heads or Tails yn profi i fod y gyfres fwyaf poblogaidd a llwyddiannus ar theSprout. Os nad wyt ti wedi darllen hwn, dwi'n awgrymu dy fod di. Wnei di ddim difaru!
Mae'r erthygl nesaf yn un dwi'n hoffus iawn ohono, gan ei fod yn bwysig i mi. I mi, dyma ydy cychwyn beth fyddai'n newid fy mywyd. Dyma fy erthygl gyntaf. Dwi ddim yn credu fod hwn yn bwysig i theSprout ar y cyfan, ond i fi, mae'n bwysig iawn. Mae'n ymwneud â'r Ŵyl Gomedi Caerdydd. Dwi wedi cynnwys ef yn hwn er mwyn difyrrwch fy hun yn syml. Efallai byddai o ddiddordeb i rai ohonoch.
Yn fis Hydref, cyflwynodd Sproutiwr erthygl: erthygl oedd ar yr olwg gyntaf yn eithaf diniwed, ond bu cynnwrf mawr ymysg darllenwyr theSprout, yn annog reiat fawr, fandaliaeth a sylwadau. Daeth y ddadl fawr Xbox 360 Yn Erbyn PS3 at theSprout diolch i ScoutShadow. Dwi'n credu mai'r erthygl hon ydy'r un sydd wedi cael y nifer fwyaf o sylwadau erioed.
Yn hwyrach y mis hwnnw, rhyddhawyd y Sproutcast cyntaf erioed i'r cyhoedd! Dwi'n meddwl fod hwn i fod yn ddigwyddiad rheolaidd ond mae'r cynllun hwnnw wedi'i weld wedi diflannu. Er, dwi'n clywed fod cynlluniau i ddod ag ef yn ôl. Os hoffet helpu gadawa sylwad.
Wedi'i ysgrifennu gan Keighly yn fis Hydref, dwi wedi cynnwys y darn hwn yn yr hanes gan fy mod yn meddwl ei fod yn ddarn wedi'i ysgrifennu yn hyfryd, wedi ei grefftio yn dda ac yn bleser llwyr i'w ddarllen.
Digwyddiad balch arall i theSprout a CLIC ar y cyfan oedd pam bu Dan Grosvenor bach ni ar raglen BBC3… iawn, rhaglen am 'freaks' oedd hwn, ond llwyddiant nodedig yr un fath! Dyma taniaCLIC yn ysgrifennu amdano!
Nadolig llynedd cafwyd cyfres o flogiau ar CLIC o'r enw 12 Blog Y NadoCLIC. Dyma'r cyntaf, gan neilramsden, er dwi'n awgrymu i ti ddarllen pob un, gan gynnwys yr Herwgipiad Blog Nadolig gan garethCLIC. Mae yna rai gwych yma.
Cyrhaeddodd 2011 a pharhaodd theSprout fel arfer am nifer o fisoedd, ond dwi wedi dewis y darn nesaf yma gan fy mod yn edmygu'r dewrder gymerodd i ysgrifennu'r darn hwn. Mae A Boy yn ysgrifennu am ei ymdrech i ddod allan i'w dad cu a'i fam gu Mwslim llym. Mae'r darn hwn yn wirioneddol prydferth ac ysbrydoledig.
Yng nghanol mis Mawrth 2011, cynhyrchodd fy ffrind CrazyDistortion a finnau fideo am ysgrifennu sylwadau ar theSprout ac yn wir CLIC. Ysgrifennais erthygl ar y cyd a chafodd hwnnw, yn ogystal â'r fideo, ei dderbyn yn gyffredinol dda. Fy ngobaith yw bod y fideo hwn y cyntaf mewn rhestr hir o gynnwys fideo bydd defnyddwyr yn cynhyrchu i theSprout. Dwi'n gobeithio dy fod di'n ei fwynhau.
Yn hwyr fis Mawr, ysgrifennodd J-Pattz erthygl am brydferthwch a beth sydd yn cael ei gysidro'n brydferth. Roedd yn ddarn sydd wirioneddol yn cysylltu gyda phobl ifanc heddiw.
Yna ar ddiwedd mis Mawrth, dathlodd theSprout ei Ail Wobrau Sprout ac yn yr erthygl hon, gallet ddarllen am y digwyddiad hanesyddol, y digrifwyr oedd yno ac wrth gwrs, yr enillwyr.
Ar 23 Mai 2011, cyflwynodd theSprout Y Wal: Erthygl fydda'n cael baner ei hun fel bod posib cael mynediad haws i'r Wal. Mae'r Wal yn gadael i ti bostio unrhyw beth hoffet fel sylwad, bod hyn yn ychydig o eiriau sydyn, neu'n gyswllt i fideo neu gân, neu i ddweud helo! Mwynha!
Fel gallet weld o'r darn eithaf hir, atgoffaol hwn, mae theSprout wedi dod yn bell iawn ac mae'n anrhydedd i mi gael y fraint o ysgrifennu'r 2000 erthygl i'r wefan anhygoel yma (fel byddai Arielle yn ddweud). Dwi'n falch fy mod wedi dod yn rhan o hyn. Mae theSprout wirioneddol yn bopeth mae pobl ifanc yn sefyll amdano: twf, datblygiad, ysbrydoliaeth, llygaid awyddus ac ymennydd agored. Dwi'n llawn emosiwn yn gweld theSprout yn cyrraedd carreg filltir mor bwysig… a hefyd fe gymerodd pedair awr a hanner i mi edrych ar yr holl erthyglau wedi'u llwytho i theSprout. Bob un o'r 1999 ohonynt.







