Gwobrau Sprout: Enwebiadau Ar Agor
Pobl o fydysawd y Sprout, mae'n amser y flwyddyn unwaith eto...
Am y drydedd flwyddyn, mae'r Gwobrau'r theSprout yn noson lle fydden ni'n gyd yn casglu mewn ystafell siâp rhyfedd ac yn dathlu'r gwaith da dros y flwyddyn, ond gyda 9-12 person yn dathlu'n am fyddant nhw'n derbyn tystysgrif a rhai gwobrau ar ôl ennill gwobr. Ond mae pawb yn enillwyr, mewn gwirionedd...
Unrhyw ffordd, bydd y Gwobrau theSprout 2012 yn cael ei gynnal ar Ddydd Iau, 29ain Fawrth 2012. Rydyn ni'n dal yn smwddio rhai manylion allan, oce rydyn ni'n smwddio llawer o fanylion allan ond nad ydynt yn golygu ni ellir ddechrau gyda'r agwedd fwyaf pwysig - yr enwebiadau.
Mae'r categorïau am y flwyddyn yma yw:
- Sproutwr Gorau (Y cyfrannwr orau ar y cyfan i theSprout).
- Newydd-ddyfodiad Gorau (Wedi ymuno ar ôl y seremoni olaf ar 31/3/11)
- Sproutwr Fwyaf Ymglymedig (Pwy sydd yn rhoi'r oriau mewn i'r theSprout?)
- Erthygl Fwyaf Defnyddiol (Gwybodaeth leol neu gyngor neu rywbeth sudd wedi newid eich golwg ar bwnc... pethau defnyddiol!)
- Erthygl Fwyaf Creadigol (Barddoniaeth, stori fer, cyfres ayyb)
- Adolygiad Gorau (Ffilm, theatr, tŷ bwyta, cerddoriaeth, gemau, chwaraeon, ti'n gwybod adolygiadau o bethau)
- Fideo'r Flwyddyn
- Erthygl Fwyaf Doniol
- Arglwydd Y Sylwadau (Pwy sy'n gadael y sylwadau orau? Neu efallai mai yna un sylw sy'n sefyll allan?)
Ac yn olaf...
- Cyfwisg Gwddf/Gwallt Orau'r Noson (i gael ei rhoi ar y noson - mae hyn yw'r cod gwisg, gwisgo unrhyw beth ond mae yna wobr am y gyfwisg gwallt/gwddf orau - sef tei, sgarff, siôl, unrhyw beth sydd allu cael ei wisgo o gwmpas dy wddf)
Eisiau enwebu rhywun neu rywbeth?
Gwych. Os maent yn ddarn newydd rydych wedi'u hysgrifennu yna rhowch y categori yr ydych am i gofrestru ar dop yr erthygl pan yr rwyt yn ei gyflwyno i'r theSprout yn y fasiwn arferol.
Am erthyglau sydd yn ar y wefan mae gennych tri opsiwn:
- E-bostio’r ddolen gyda'r categori i sam@thesprout.co.uk
- Postio ar y tudalen ffan Facebook
- Neu anfon yr URL trwy Twitter i @FeedTheSprout gan ddefnyddio'r hashtag #GwobrauSprout neu #SproutAwards
I enwebu defnyddiwr am wobr, e-bostio sam@thesprout.co.uk gyda'r categori rhywle yn yr e-bost.
Mae gen ti cyn Dydd Llun 5ed Fawrth 2012 i gael eich enwebiadau mewn. Ac ar ôl wythnos bydden ni'n dechrau'r proses pleidleisio.
Unrhyw gwestiynau, yna adiwch sylw isod. A gallet ti enwebu eich hunan.
Yn olaf, os wyt ti eisiau cymryd rhan yn y cynllunio’r seremoni dewch i'r cyfarfod Grŵp Olygu Sprout nesaf ar Ddydd Iau.







