Mis Hanes LHDT: Dod Allan Yn Ddeurywiol
Enw fi ydy Rosie ac fe ddes i allan yn ddeurywiol ar fy mhen-blwydd yn 18 oed yn y WOW Bar.
Ar y noson ddes i allan roeddwn i wedi gwisgo fel Alice o Alice's Adventures In Wonderland a chyfarfod yr eneth fwyaf prydferth roeddwn i wedi'i weld erioed. Dywedais wrth fy chwaer a'm chwaer drawsrywiol y noson honno mod i'n ddeurywiol. Y noson honno nes i ffeindio allan hefyd fod fy mrawd yn chwaer i mi go iawn mewn corf dyn.
Roeddwn i mor ofn dweud wrth mam fy mod i'n hoffi genethod felly yn lle dweud wrthi fod i'n hoffi nhw dechreuais gusanu'r eneth roeddwn i wedi'i gyfarfod y noson honno o flaen mam – roedd hi wedi cael braw mawr.
Dros y dyddiau nesaf siaradais gyda fy nheulu a dweud wrthyn nhw sut oeddwn i'n teimlo a rhywbeth oedd yn ffwndro fi ond yn anhygoel oedd bod pawb yn falch iawn ohonof i am fedru dod allan a bod yn hapus. Roedd fy llystad yn gwneud jôcs fod y tebygrwydd ohonof i'n dod adref yn feichiog wedi'i haneru rŵan ond roeddwn i'n gwybod nad oedd o'n anghytuno gyda phwy oeddwn i.
Yn araf dechreuais ddweud wrth fy ffrindiau mod i'n ddeurywiol ac roedd y rhai dywedais wrthynt wedi cymryd y peth yn dda iawn.
Gan fod i'n gwybod na fyddai pawb yn derbyn y peth, yn hytrach na wynebu nhw, postiais ar facebook yn fy sialens lluniau 100 diwrnod mod i'n ddeurywiol a dweud mai dyma oedd fi'n dod allan i'r rhai oedd ddim yn gwybod.
Cyn i mi gychwyn y broses araf o ddod allan doeddwn i methu aros mewn ystafell pan roedd geneth yn newid nac yn gallu cael cyswllt llygaid â nhw, hyd yn oed os doeddwn i ddim wedi fy nenu iddyn nhw; roeddwn i ofn y byddai hi yn gallu gweld mod i'n hoffi genethod. Roedd yn anodd iawn sylwi a derbyn y ffaith mod i'n ddeurywiol, gan er nad oedd gen i unrhyw dueddiad homoffobig a doeddwn i ddim yn barnu neb, doeddwn i ddim yn teimlo bod fi'n hoffi genethod yn iawn. Wrth i fi dyfu a chyfarfod mwy o bobl LHDT oedd i gyd yn arfer teimlo'r un ffordd â fi ond roedd yr eneth yn WOW wedi creu cymaint o argraff arnaf i ac wedi rhoi'r hyder i mi ddweud mai dyma pwy ydw i ac os ti ddim yn hoffi hynna yna colled ti ydy hynny,
Ar ôl i fi ddod allan sylweddolais os oedd fy ffrindiau benywaidd hetero dal o gwmpas yna doedd ddim rhaid i fi boeni am edrych i fyw i lygaid nhw a doedd ddim rhaid i fi fod yn nerfus achos roedden nhw yn caru fi am bwy ydw i. Roedd yn gymaint o ryddhad i wybod fod nhw'n gweld fi fel yr un person er bod eu hymwybyddiaeth i'm rhywioldeb iddyn nhw wedi newid.
Roedd fy ffrindiau gwrywaidd hyd yn oed yn disgwyl y peth ac yn gweld fi'r ffordd roeddwn i eisiau cael fy ngweld. Gan fod gwell gen i fod yn ffrindiau efo bechgyn roedd yn gwneud ein bond ni'n gryfach am fod nhw'n gwybod gallan nhw siarad efo fi am bopeth roedden nhw'n arfer siarad amdano gan fod ein diddordeb cyffredin wedi ehangu!
Yr unig berson dwi heb ddweud wrtho ydy dad ac er bod hyn yn mynd i fod yn anodd gan ei fod o ychydig yn homoffobig dwi'n plycio'r egni i ddweud wrtho.
Clicia yma am erthyglau LHDT theSprout
Gwybodaeth – Cyfeillgarwch
Gwybodaeth – Bod yn rhan o Deulu
TheSproutDirect.co.uk – Loud & Proud
Gwybodaeth – Perthnasoedd o'r un rhyw
DELWEDD: Brandon Christopher Warren







