Os Nad Wyt Ti’n Darllen Hwn Yna…
Os wyt ti’n darllen hwn, yna mi wyt ti yn un o’r lleiafrif sydd yn berchen ar gyfrif CLIC. Llongyfarchiadau.
Ond yn anffodus dydy’r mwyafrif ddim. Mae’n rhaid i hyn newid.
Fel dwi’n siŵr dy fod yn ymwybodol, mae ein llywodraeth newydd yn gyfyng iawn gyda’i arian ac i fod yn onest: ni fydd hi’n hir iawn nes iddynt dorri ein cyllid a byddwn yn gweld ein hunain allan ar y stryd.
Dwi’n sicr eich bod chi i gyd erbyn nawr yn dechrau crio yn ddistaw i chi’ch hun mewn anobaith llwyr. Efallai dy fod di’n paratoi torf ddig i ddod i chwilio amdana i a gwneud pethau erchyll i mi. Neu efallai dy fod yn barod i luchio dy liniadur/PC/ffon symudol yn erbyn y wal er mwyn osgoi darllen y gwir ofnadwy hwn.
Cadwa efo fi.
Beth os, a chadwa efo fi ar hyn, rydym yn cael mwy o bobl i gofrestru â theSprout/Wicid/CLIC neu beth bynnag wyt ti’n defnyddio? Beth os ydym yn gyrru mwy o erthyglau a lluniau a digwyddiadau? Beth os ydym ni’n gwneud mwy o sylwadau ar bethau a dangos iddyn nhw ein bod ni’n defnyddio’r gwefannau hyn?
Does dim rheswm o gwbl (heblaw am efallai ein bod yn ddiog) pam na fedrwn ni wneud sylwadau ar wahanol erthyglau neu luniau. Mae mor hawdd ond dydy neb i weld yn gwneud hyn. Dim ond arwyddo i mewn sydd raid i ti, ffeindio erthygl a mynd i’r bocs sylwadau. Trïa fo rhyw dro. Fe weli di ei fod yn llawer haws nad oeddet ti’n ei feddwl!
Mae’n hawdd iawn i gael linc o’r wefan CLIC a phostio fo ar dy dudalen proffil Facebook. Yna dweud wrth bobl ymuno. Os bydd hyd yn oed un person, sydd yn gweld dy linc, yn ymweld â’r wefan, yna gall gyfri hyn fel llwyddiant.
Dwi’n edrych ar dudalen cartref theSprout wrth i mi deipio hwn (ydw dwi mor glyfar â hynna) a does dim o’r erthyglau, neu hyd yn oed yr erthyglau nodwedd efo sylwadau. Dim ohonyn nhw. Mae’r erthyglau yn wag. Beth sydd o’i le yn y darlun hwn?
Os gallem dynnu at ein gilydd a dangos i bobl ein bod yn defnyddio, ac yn gwneud defnydd o CLIC a’r gwefannau lleol, sut gallan nhw dynnu ein cyllid?
Sori am y rhefru (mewnosod wyneb gwenu yn fan hyn).
DELWEDD: gan mrhappy - Kieran Connellan







