Adolygiad: Avenue Q @ CMC
English version
Avenue Q
Canolfan Mileniwm Cymru
Mawrth 14eg Mehefin 2011
Yn fyr, roedd Avenue Q yn anhygoel.
Ond os oes gen ti ddiddordeb mewn dadansoddiad manwl, yna ti wedi dod i'r lle iawn. Dwi wedi bod yn awyddus i weld Avenue Q am gyfnod hir iawn bellach ond oherwydd ysgol a gwaith, ac yna prifysgol, doedd yr amser byth gen i i fynd yr holl ffordd i Lundain bach i'w weld. Am ffodus ydw i, ac yn wir y cyfunol chi, fod y sioe West End gwych yma bellach yn teithio Prydain.
Wedi'i osod (fel disgwylir) ar Avenue Q, Efrog Newydd, mae'r stori yn dilyn dyn ifanc o'r enw Princeton wrth iddo adael coleg gyda BA mewn Saesneg a dim cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Ar ôl cychwyn yn Avenue A, mae'n darganfod ei hun yn yr unig le gallai fforddio, ynghyd â chwpl rhyng-hiliol anffodus yn ariannol, adict porn, gwrywgydiwr cudd a'r person di-waith, diog sydd yn byw gydag ef. O a Gary Coleman. Beth allai fod yn waeth?
Wel, gan dy fod di wedi gofyn, nid oes gan Princeton gorff is gan mai pyped ydyw. O ia! Mae mwyafrif helaeth o'r cymeriadau yn y sioe gerdd yma yn bypedau! Mae'r pypedau ei hunain yn rhywbeth i gymeradwyo gan fod pob un wedi'i grefftio yn feistrolgar ac yn edrych yn wych. Mae pob cymeriad efo nifer o amrywiadau o'i ffurf pyped a dwi ddim yn hoffi meddwl sut le sydd tu ôl i'r llenni.
Mae'r perfformwyr (pobl go iawn) yn trin nhw'n rhyfeddol ac yn aml ti'n cael dy amsugno cymaint i'r pypedau fel dy fod di, oherwydd y sgiliau pyped slic, yn anghofio'n hawdd fod y perfformwyr yno o gwbl. Mae'r cast yn gwneud llawer mwy na rheoli'r pypedau. Maent yn rhoi llais i'r cymeriadau, a lleisiau gafaelgar iawn hefyd. Mae'r cast cyfan efo gallu lleisiol cryf er dwi'n meddwl dylai rhoi sylw arbennig i Rachel Jerram oedd yn chwarae Kate Monster, diddordeb cariadol Princeton yn ogystal â chymeriad o'r enw Lucy sydd yn… ym, gad i mi ddweud yn llac yn rhywiol ac yn darten aflywodraethus. Mewn amryw olygfa roedd dau byped Rachel yn cyfarfod ac roedd gwylio hi'n newid lleisiau mor sydyn yn wirioneddol ddifyrrus ac fe wnaeth hi'n dda. Mae ei llais canu yn hyfryd ac yn ystod caneuon penodol fel There's a Fine Fine Line, roeddwn i bron a chrio ond pan roedd hi'n perfformio fel Lucy roeddwn i'n chwerthin nerth fy mol wrth iddi ganu'r Special anhygoel.
Perfformiwr arall sydd yn haeddu sylw ydy Adam Pettigrew oedd yn anhygoel fel Princeton a hefyd fel Rod, gwrywgydiwr cudd yn gwneud ei orau glas i sicrhau fod neb yn amau ei gyfrinach "tywyll". Eto, roedd ei allu lleisiol yn wych yn canu caneuon cynhesu’r galon fel What Do You Do with a BA in English? A Purpose fel Princeton ac yn achosi i mi chwerthin yn uchel fel Rod yn canu My Girlfriend Who Lives in Canada. Roedd ei gymeriadaeth yn rhywbeth oedd yn amlwg iawn i mi. Roedd portread Adam o Princeton diniwed ac ofalus yr un mor argyhoeddiadol â'i bortread o'r Rod amddiffynol ac ofnus.
Wna'i ddim sôn am ba mor wych oedd y cast cyfan, gan y gallwn fod yn siarad am amser maith. Roedd y darn ensemble cyfan yn wych, ond dwi'n teimlo fod rhaid sôn am ddau berfformiwr yn benodol am eu gwaith tîm. Roedd Katherine Moraz a Chris Thatcher yn gwneud act ddwbl aruthrol gyda phinbwyntio manwl gywir y promenâd dros y llwyfan fel Nicky a''i amseriad comig fel y Bad Idea Bears. Nhw, i mi, oedd y ddau berfformiwr oedd yn sefyll allan am y grefft anhygoel. Mae'n rhaid bod y ddau wedi bod yn ymarfer am oriau maith gyda'i gilydd.
Mae'r sioe yn delio gyda nifer o bynciau sydd yn dod i bawb yn eu hamser fel hiliaeth, biliau,rhyw, rhywioldeb, poen, alcohol, cariad, tor calon ymysg nifer o rai eraill. Mae'n â nhw yn noeth a ddim yn dal yn ôl. Mae'r sioe yn aruthrol.
Mae'r gerddoriaeth yn anferth, ffraeth, calonnog ac yn hwyl lwyr. I ddweud y gwir, mae hynny'n wir am yr holl sioe. Dwi wirioneddol wedi mwynhau Avenue Q a hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd yn rhan o'r sioe. Fe wnaethoch chi fy nos Fawrth i yn llawer mwy diddorol.
Bydd Avenue Q yn stadiwm Mileniwm Cymru tan ddydd Sadwrn yma, 18 Mehefin. Os nad fedra di wneud un o'r sioeau… dilyna nhw i'r Grand Opera House yn Belfast, neu'r King's Theatre ynn Nglasgow. Ta waeth y pellter sydd yn rhaid teithio, dim ond bod ti'n gweld y sioe yma! Archeba docynnau yma.
Newyddion » Categorïau
» Llwyfan
Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Y Celfyddydau Perfformio » Actio, Drama a'r Theatr
Erthygl Gysylltiedig:







