Eastlife… Yntau Westlife?
English Version
Gan nad oeddwn i erioed wedi bod yn ffan fawr o Westlife, roeddwn wedi synnu fy mod i’n galw Mr Golygydd CLIC i ofyn am y ddau docyn gwasg roedd wedi cael.
Nawr, yng nghysur a chynhesrwydd fy ystafell, dwi’n falch iawn fy mod i.
Cyrhaeddais y Motorpoint Arena, sylwer enw newydd, am hanner awr wedi saith. Ia, bechgyn a’r marched, nid yw’r CIA yn bod mwyach. Ers dydd Mawrth 1af Mawrth, mae Motorpoint wedi cymryd yr hawliau enwi am y lle am y pum mlynedd nesaf. Er mor siomedig ydw i gan y trosfeddiant llym a chreulon yma, fe stopia’i nawr.
Roedd act cefnogi Westlife, Wonderland, yn wych, sasi ac i gyd efo gallu lleisiol cryf. Tra roeddent yn symud o gwmpas y llwyfan fel petai morgrug yn eu dillad isaf, roedd y coreograffi yn syml ond yn ddymunol yn weledol.
Canom Need You Now (un o’m ffefrynnau) a’u sengl newydd Not A Love Song, yn ogystal ag eraill. Roeddent yn bopeth dylai grŵp genethod fod tra’n gydamserol yn cael cystadleuaeth yn erbyn ei gilydd i weld pwy fydda’n gallu cyfarch Caerdydd y mwyaf aml.
Ar ôl Wonderland disgwyliom am yr hogiau. Ac yna ychydig hirach. Yn hwyr i barti nhw eu hunain? Fedri di ddychmygu? Yn ffodus doedd y gynulleidfa (y rhan fwyaf ohonynt yn ferched o tua 10 i 80 oed. Pe baent yn hŷn yna byddai eu teclyn cliw wedi ffrwydro, gan fod y gynulleidfa i gyd yn mynd yn hollol wallgof bob tro roedd llun o’r hogiau yn dangos ar y sgrin teledu hyrwyddol. Dwi’n dweud ‘gynulleidfa i gyd’. Es i ddim yn wallgof) ddim yn meindio.
O’r diwedd, cyrhaeddodd Westlife ar gadair hedfan. Mae’n rhaid i mi roi o iddyn nhw; maen nhw yn gwybod sut i wneud mynediad. Wrth iddynt ddisgyn yn araf o’u cartref nefol i ymuno â ni ddynion syml, doeddwn i ddim yn gallu helpu ond dychmygu pa mor dda fyddai’n edrych os bysant yn canu hefyd.
Roeddwn i wedi fy siomi. Dim canu. Bechod. Hogiau, pam rydych yn darllen hwn, efallai byddai canu ar y ffordd i lawr yn rhywbeth hoffech chi gysidro (mewnosod wyneb gwenu yn fan hyn).
Pan ddaeth y gallu lleisiol o’r diwedd, creodd argraff arnaf. Nid oes syndod eu bod wedi cael gyrfa mor hir a llwyddiannus, ac maent yn bendant yn gwybod sut i symud ar lwyfan. Er roedd y coreograffi yn edrych fel rhywbeth wedi ei dynnu yn syth o’r Llawlyfr Band Bechgyn, fe wnaethant yn dda iawn.
Enw’r daith ydy Gravity. A pam mae gen ti daith o’r enw Gravity, yr unig set fedri di gael yn wirioneddol ydy casgliad o afalau anferth! Lyfli.
Aeth y band oddi ar y llwyfan tra roedd eu band (oedd yn anhygoel) yn chwarae dros eu newid gwig. Cyrhaeddom yn ôl yn gwisgo dillad yn syth allan o High School Musical. Na, wir.
Yna canom gasgliad o lwyddiannau siart diweddar oedd ddim yn rai eu hunain: Viva La Vida (Coldplay), Only Girl In The World (Rhianna), Dirty Bit (Black Eyed Peas), Bad Romance (Lady Gaga, a fy ffefryn personol ac uchafbwynt o’r noson) ac I Predict A Riot (Kaiser Chiefs). Roedd o’n wych ac roedd y coreograffi yn ddiddorol ac od.
Roedd y noson gyfan yn bleserus ofnadwy ac roedd yr hogiau yn bendant yn gwybod sut i gael hen ferched allan o’u cadeiriau olwyn, ar eu traed a sgrechian a chwifio eu dwylo’n wyllt.
Ar un pwynt roedd y sgrechian mor uchel fel bod rhaid i mi roi plygiau clust i mewn. Roedd hyn pan roedd yr hogiau sef, dwi wedi cael gwybod gan mam, Nicky, Kian, Mark a Shane, yn neidio ar drawst enfawr ac yn reidio i fyny ac allan i’r gynulleidfa wrth ganu un o’u caneuon mwy pwerus You Raised Me Up.
Roedd y sioe gyfan yn wych. Ond, y peth fwynheais fwyaf oedd gweld mam yn gwenu yn gyson wrth ganu ac yn mwynhau pob eiliad. Gan ei bod hi’n ffan fawr o Westlife, dwi’n falch iawn fy mod wedi mynd â hi i’w gweld.
Roeddwn wedi synnu am y gorau faint roeddwn i, gwryw ifanc, wedi mwynhau nhw hefyd. Maen nhw’n bytholi hunanfeddiant hynaws sydd, mae’n debyg, wedi dod o fod yn un o’r bandiau bechgyn fwyaf poblogaidd o’n cenhedlaeth.
Cefais fy niddanu drwyddo; ac ar un pwynt roeddwn yn chwerthin yn uchel wrth i mi glywed dynes tu ôl i mi yn dweud “Byddwn i’n marw’n ddynes hapus os byddai Shane yn cyffwrdd fi heno!” Y gorfoledd o wrando ar ferched canol oed yn llewygu dros ddynion na allent gael.
Epilog? Daeth mam adref neithiwr gyda’r albwm Gravity. Yn ôl hi, mae’n wych.
FIDEO: Hannahbbz







2 Comments – Post a comment
Fantastic324
Commented 14 months ago - 15th March 2011 - 10:35am
Pam ydy nhw wedi ailenwi fe'n Motorpoint, mae'n swnio fel car wash neu lle i werthu ceir!
Mae wedi bod yn CIA ers i mi gofio, mae'r holl beth yn hollol ddwl!
Menter_Caerdydd
Commented 14 months ago - 15th March 2011 - 11:38am
cytuno'n llwyr! ma pawb yn adnabod y ganolfan fel y CIA.... motorpoint yn swnio fel peiraint golchi!!