Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Parth Ieuenctid Mardi Gras

Posted by LoudandProud from Cardiff - Published on 25/08/2010 at 17:21
0 comments » - Tagged as Art, Culture, Dance, Festivals, Health, Music, People, School Holiday Activities, Stage, Sport & Leisure, Topical

  • mardi
  • loud

English version

Efallai dy fod wedi clywed yn barod drwy theSprout bod sôn am gael Parth Ieuenctid yn Mardi Gras eleni (gŵyl Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol,  Thrawsrywiol Caerdydd-Cymru, hefyd yn cael ei adnabod fel yr ŵyl LHDT)

Wel, gallem nawr gadarnhau yn swyddogol fod hyn yn mynd i ddigwydd!

Mae’r Parth Ieuenctid  yn cael ei redeg gan grŵp ieuenctid Loud & Proud (LHDT) ac yn cael ei ariannu gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd a Chelfyddydau & Busnes i ddod a man diogel yn yr ŵyl lle gall siarad gyda staff Loud & Proud neu linell gymorth Meic am unrhyw bryderon neu faterion.

Gall hefyd cael arddangosiadau condom gan y cynllun Cerdyn-C a darganfod ble i ymuno i’r Cerdyn-C yng Nghaerdydd i gael condomau am ddim a chyngor iechyd rhywiol dros y ddinas. Yn ogystal â hyn bydd theSprout.co.uk hefyd yn achosi bob math o ddrygioni yn y Parth Ieuenctid!

Bydd y tîm stryd ddatgysylltiedig canol y ddinas yn cerdded o amgylch y cae ar y dydd ac os oes gennych Gerdyn-C yn barod gall cael condomau ganddynt.

Bydd nifer iawn o weithgareddau yn mynd ymlaen, dyma rai:

•    Gweithdai Syrcas
•    Gweithdy DJ
•    Arlunio Graffiti
•    Creu Mwgwd
•    Peintio wynebau
•    Creu breichled
•    Fideo Vox Pop

Y Parth Ieuenctid ydy’r cyntaf o’i fath yn Mardi Gras Caerdydd felly plîs tyrd draw i gefnogi’r digwyddiad. Os bydd y Parth yn mynd yn dda eleni yna gall fod yn rhywbeth parhaol.

Gan fod y parth hwn i bobl ifanc bydd gwaharddiad ar ddod ac alcohol i mewn i’r man.

Gwybodaeth pellach am y Mardi Gras                         Gwybodaeth pellach am Loud&Proud

DELWEDD: marrisaoconnor14

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.