Y 12fed Blog NadoCLIC
English version
O ddydd Llun 13 i ddydd Gwener 24 Rhagfyr, bydd CLIC efo blog gwestai gwahanol bob dydd – Y 12 Blog NadoCLIC - ffaith! Dyma’r deuddegfed a’r terfynol…
Nodyn Golygydd: Helo ‘na. Plîs paid â gwylio’r fideo eto. Fe ddaw'r amser.
Mae yna lawer i’w ddweud am y Nadolig.
Mae hwn yn un cyfnod o’r flwyddyn pan fydd brodyr a chwiorydd yn stopio cwffio, pan fydd rhieni sydd wedi gwahanu yn gallu dioddef bod yn yr un lle a'i gilydd er mwyn eu plant a pan ti efo esgus i stwffio dy hun yn llawn bwyd.
Mae’r Nadolig efo awra hudol sydd yn ymddangos fel ei fod yn amgylchynu’r blaned ac yn gyrru negeseuon o lon ac ewyllys da i bob person ar y blaned. Pob person heblaw am y rhai sydd yn gweld trwy’r ffasâd. A plîs maddeua i mi, ond dwi’n credu fy mod yn iawn pan dwi’n galw’r Nadolig yn ffasâd.
Dealla, dwi yn caru’r Nadolig. Mae’n un o’r ychydig gyfnodau o’r flwyddyn pan fydd fy nheulu efo’r amynedd i eistedd i lawr wrth fwrdd a bwyta pryd gyda’i gilydd. Dwi’n cael anrhegion i ddathlu pen-blwydd Iddew sydd wedi hen farw, a dwi’n cael prynu anrhegion i’m ffrindiau heb ymddangos yn anghenus a thruenus.
Dychmyga brynu anrhegion i dy ffrindiau dim ond am dy fod yn hoffi nhw fel pobl: am ddigywlydd.
Nid yw bywyd fel mae’n sefyll am weddill y flwyddyn yn benodol o wych, nac ydy? Mae brodyr a chwiorydd yn cwffio’n gyson dros bethau sydd ddim yn bwysig iawn, mae rhieni dros Brydain yn gwahanu fel bananas, ac mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth wedi’i gwahanu i mewn i ddau gategori: y rhai sydd yn ordew a’r rhai sydd yn llwgu eu hunain i osgoi cael eu gweld fel bod yn ordew.
Y Nadolig ydy’r cyfnod hudol o’r flwyddyn pan mae’r pryder a’r trallod hwn yn newid am ddau-ddeg-pedwar awr ryfeddol. Os byddai’r Nadolig yn cael ei stripio’n noeth, beth fyddai ar ôl? Geni Iesu Grist. Ond sut gall hynny fod? Beth am Siôn Corn? Ceirw?
Beth am y mwyafrif helaeth o anrhegion rydym yn gyrru i’n gilydd? Beth am yr un hen ffilmiau sydd yn cynnwys llawer o eira, anifeiliaid sydd yn siarad, corachod a silwét o Siôn Corn yn gyrru pasio’r lleuad wrth i’r credydau ddechrau rholio?
Nid yw’n ddim i wneud, mae’n drist gen i ddweud, efo dathliadau gwirioneddol y Nadolig. Dyma’r pethau sydd wedi cael ei ychwanegu iddo.
Disgwyl, stopia. Ti’n dechrau swnio fel un o’r bobl wallgof yna ar y stryd. Plîs, dwi ddim yn ceisio awgrymu fod pawb wedi anghofio gwir ystyr y Nadolig. Nid dyna bwynt yr erthygl hon.
Y pwynt yw ein bod yn defnyddio’r Nadolig i guddio ein diffygion a hoffwn i, os caf, ei gymharu i’r ffilmiau Matrix. Un olygfa yn benodol i ddweud y gwir. Dwi wedi cynnwys yr olygfa yn yr erthygl hon. Plîs, gwylia fo nawr. Fe ddisgwylia i.
Dwi’n gobeithio dy fod wedi ei wylio nawr, gan na fydd gweddill hwn yn hawdd i’w ddilyn os nad wyt ti. Felly, mae Cypher wedi penderfynu nad yw’r byd go iawn yn werth byw ynddo. Mae’n fyd o ryfel tragwyddol gyda pheiriannau. Mae'r Matrix yn fyd tebyg iawn i fyd ni, ac mae Cypher wedi penderfynu fod gwell ganddo fyw ynddo fel actor pwysig, cyfoethog.
Mae’n dewis anwybyddu’r byd go iawn sydd yn llawn poen, tristwch a rhyfel ac i dderbyn byd mae’n ei adnabod fel un ffug fel ei fod yn gallu mwynhau bywyd cyffyrddus yn lle’r un llym mae’n byw ynddi nawr.
Os wyt ti’n gofyn i mi, os wyt ti’n penderfynu cymryd rhan yng ngweithgareddau traddodiadol y Nadolig fel cael coeden gyda channoedd o oleuadau arno, yn rhoi anrhegion am ddim rheswm penodol ac yn perswadio miliynau o blant dros y byd fod dyn tew mewn siwt coch yn bodoli ac yn gallu osgoi rheolau’r cyfanfyd, yna mae hynny yn debyg iawn i dewis Cypher i anghofio’r byd go iawn.
Felly, beth ydym ni yn ei wneud? Wel, ymddangosai fod dau ddewis. Dyw’r dewis cyntaf ddim yn ddewis go iawn o gwbl, dim ond yn theori ddiddorol. Gallet anwybyddu’r Nadolig yn gyfan gwbl. Gallet barhau i fyw'r 25 o Ragfyr fel diwrnod arferol.
Ond, byddai hyn yn profi’n anodd iawn gan fod gweddill y byd, dwi’n sicrhau i ti, ddim efo’r fath fwriad. Felly dyw Nadolig ddim yn bodoli ddim yn ddewis go iawn.
Yr ail ddewis ydy’r un sydd yn well gen i. Mwynha’r Nadolig. Parha i fwynhau’r teimlad o undod mae’n ei roi. Mwynha’r anrhegion ti’n eu cael a mwynha gweld y gwen ar wynebau’r rhai ti’n rhoi anrhegion iddynt. Mwynha addurno dy goeden a mwynha dy ginio Nadolig.
Mwynha’r tawelwch rhwng dy rieni heddychol cyfnodol a mwynha wylio’r ffilmiau sydd yn cynhesu’r galon sydd ar FilmFour a ITV2. Mwynha wylio episodau Nadolig arbennig dy raglenni gorau (Dwi’n edrych ymlaen at yr un Doctor Who) a mwynha fwyta’r twrci tan y Flwyddyn Newydd.
Mwynhau gweld dy deulu a mwynha dreulio amser gyda nhw tra rydych chi i ffwrdd o’r ysgol a gwaith.
Mwynha fo tra mae’n parhau, oherwydd yn hwyr neu’n hwyrach, bydd pawb yn cael eu tynnu allan o The Matrix ac yn cael eu dychwelyd i’r byd go iawn. Nadolig Llawen.
Mae Stormer007 yn ysgrifennwr oedd yn teimlo’n rhy swil i ddefnyddio’i enw go iawn. Uh oh. Yn lle hyn, fe ddwynodd enw ei gi i ddefnyddio fel enw arall i ysgrifennu i’r Sprout. Mae ei erthyglau yn amrywio dros sbectrwm od ac mae’n hoffi cwtsh… i’w galonogi.
Gobeithio dy fod wedi mwynhau 12 Blog Y NadoCLIC. Eisiau ysgrifennu blog dy hun. Yna cer amdani! Clicia ar y tab ‘CYFLWYNA NEWYDDION’ ar y tudalen cartref a dechrau ysgrifennu. Welwn ni chi i gyd ar 4 Ionawr – NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA! x






